Job 28

Duw a doethineb

1Mae cloddfa i arian,
a lle i aur gael ei buro.
2Mae haearn yn cael ei dynnu o'r ddaear,
a chopr yn cael ei doddi o'r garreg.
3Mae dynion yn mynd â golau i'r tywyllwch,
ac yn chwilio ym mhob cilfach
am y mwynau sy'n y tywyllwch dudew.
4Maen nhw'n agor siafft ymhell oddi wrth bawb,
mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded,
ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl.
5Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu,
ond islaw mae tân yn ei thoddi.
6Mae saffir i'w gael yn y cerrig,
ac aur yn ei llwch hefyd.
7All aderyn rheibus ddim mynd ato;
all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno.
8Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno;
does dim llew wedi pasio heibio.
9Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed,
ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd.
10Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau,
ac yn edrych am bethau gwerthfawr.
11Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddu
a dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau.
12Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb?
Ble mae deall i'w gael?
13Does neb yn gwybod ble mae;
dydy e ddim i'w gael ar dir y byw.
14Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’
a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’
15Does dim modd ei brynu gyda bar o aur,
na thalu amdano drwy bwyso arian.
16Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir,
28:16 Offir Does dim sicrwydd ble roedd Offir. Affrica neu India falle. Roedd aur Offir yn cael ei ystyried fel yr aur gorau.

nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.
17Dydy aur na grisial ddim cystal,
ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.
18Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw;
mae pris doethineb yn uwch na pherlau.
19Dydy topas Affrica
28:19 AffricaHebraeg,  Cwsh. Yr ardal i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
yn werth dim o'i gymharu,
a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu.
20O ble mae doethineb yn dod?
Ym mhle mae deall i'w gael?
21Mae wedi ei guddio oddi wrth bopeth byw,
hyd yn oed yr adar yn yr awyr.
22Mae Abadon
28:22 Abadon sef, "lle dinistr"
a Marwolaeth yn dweud,
‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’
23Dim ond Duw sy'n gwybod sut i'w gyrraedd;
Mae e'n gwybod o ble mae'n dod.
24Mae e'n gweld i bedwar ban byd;
mae'n gweld popeth sydd dan yr haul.
25Pan benderfynodd pa mor gryf ydy'r gwynt,
a mesur maint y dyfroedd;
26pan osododd reolau i'r glaw
a llwybr i'r mellt a'r taranau,
27gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth;
ei sefydlu a'i archwilio'n ofalus.
28A dwedodd wrth y ddynoliaeth:
‘Parchu'r Arglwydd – dyna sy'n ddoeth;
peth call ydy troi cefn ar ddrygioni.’”
Copyright information for CYM